Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (112)v1 |
1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ (45 munud)
|
2. Cwestiynau i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth (45 munud)
|
3. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
NDM5137
Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Peter Black (Gorllewin De Cymru) Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Byron Davies (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod cerddwyr a gafodd eu hanafu neu eu lladd yn cynrychioli 21 y cant o nifer y bobl a laddwyd ac a anafwyd yn ddifrifol mewn gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd yng Nghymru yn 2011;
2. Yn cydnabod bod terfynau cyflymder o 20 milltir yr awr wedi’u profi i fod yn fuddiol i leihau nifer y bobl sy’n cael eu hanafu neu eu lladd; a
3. Yn galw ar awdurdodau lleol i gynyddu nifer y parthau 20 milltir yr awr yng Nghymru.
Cefnogwyd gan: Christine Chapman (Cwm Cynon) Mike Hedges
(Dwyrain Abertawe) |
4. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Losgi Gwastraff (60 munud)
NDM5161 William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Ddeiseb P-04-341: Llosgi Gwastraff, a osodwyd gerbron y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Rhagfyr 2012.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 30 Ionawr 2013.
Dogfennau ategol: |
5. Dadl yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil Arfaethedig Aelod ar Ofal yn y Gymuned (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) (Mark Isherwood) (60 munud)
NDM5121 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.91:
Yn cytuno y caiff Mark Isherwood gyflwyno Bil er mwyn gweithredu'r wybodaeth cyn y balot a gyflwynwyd ar 14 Hydref 2011 o dan Reol Sefydlog 26.90.
Mae’r wybodaeth cyn y balot ar gael drwy fynd i:
http://www.assemblywales.org/cy/bus-home/bus-legislation/bill_ballots/bill_021.htm |
Cyfnod Pleidleisio
|
6. Dadl Fer (30 munud)
NDM5160 Nick Ramsay (Mynwy):
Cyfrifiadura Perfformiad Uchel – Pweru arloesedd er lles economi Cymru
Pwysigrwydd a
photensial uwchgyfrifiaduron o Gymru o ran datblygu economi
Cymru. |
7. Dadl Fer - gohiriwyd o 23 Ionawr (30 munud)
NDM5145 Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed):
Arbennig, Unigryw ac mewn Argyfwng
Y bygythiadau i ddiwydiant Cig Oen Cymru a’r angen i weithredu. |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 19 Chwefror 2013